
Mae’n bleser gennyf eich croesawu i wefan Ysgol Bancffosfelen! Agorodd yr ysgol ei drysau ar y 1af o Fai, 1877 yn adeilad presennol yr ysgol dan yr enw Bancffosfelen Board School. Bu llawer, llawer o newidiadau dros y 148 mlynedd diwethaf, ond bu’r adeilad dal i fod yn y pentref ac yn gwasanaethu addysg i ddisgyblion Bancffosfelen, Pontyberem a’r pentrefi cyfagos; Mynyddcerrig, Crwbin.
Ein gweledigaeth yn Ysgol Bancffosfelen yw cynnig addysg a gofal o’r safon uchaf, mewn awyrgylch hapus, gofalgar, gweithgar, diogel, fel bod pob disgybl, beth bynnag fo’i allu, yn cyrraedd ei lawn botensial.
Mae dewis yr ysgol iawn ar gyfer eich plentyn yn hollbwysig. Mae’r rhan fwyaf o rieni eisiau addysg dda i’w plant, ond maen nhw hefyd eisiau iddyn nhw fod yn hapus a theimlo’n ddiogel yn yr ysgol. Yn Ysgol Gymunedol Bancffosfelen, credaf y gallwn gynnig y rhain i gyd. Ymfalchïwn yn yr addysg eang, gytbwys a llawn a ddarparwn, ac mae safonau uchel yr addysgu a’r dysgu yn glod i waith caled y staff a’u disgyblion. Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werth chweil a boddhaus. Pe baech yn dewis anfon eich plentyn i Ysgol Bancffosfelen, rwy’n hyderus y byddwch wedi gwneud y dewis gorau! Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, cysylltwch â mi yn yr ysgol unrhyw bryd. Edrychaf ymlaen yn fawr at gwrdd â chi yn fuan!
Mr. Thomas Gullick
Pennaeth