Datganiad Grant Datblygu Disgyblion Ysgol Gymunedol Bancffosfelen
Dyrennir y Grant Datblygu Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.
Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:
- nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, eu nodweddion a’u hanghenion
- cynllunio ymyraethau rhifedd a llythrennedd sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
- monitro a gwerthuso effaith adnoddau
Yn 2024-25 mae Ysgol Gymunedol Bancffosfelen wedi derbyn dyraniad Grant Datblygu Disgyblion o £7,594.
Yn Ysgol Gymunedol Bancffosfelen mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:
- Ddarparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf a’u bod yn gynaliadwy.
- Defnyddio systemau olrhain data i nodi anghenion dysgwyr, targedu ymyraethau a monitro effaith.
- Cefnogi teuluoedd gyda chostau gweithgareddau sydd yng nghlwm a datblygiad addysg y disgyblion.