Presenoldeb

Pan fydd disgybl yn absennol o’r ysgol, bydd eisiau llythyr (e-bost) neu ganiad ffôn beth bynnag fydd rheswm yr absenoldeb. Rhaid gwneud hynny cyn 9:10 bob bore.

Bydd y gofrestr yn cael ei chadw ar agor pob dydd tan 9.20am.

Mae’r ysgol yn defnyddio system electronig i gynnal cofrestr presenoldeb disgyblion pob dydd. Mae’r weithdrefn yn galluogi’r Awdurdod Addysg i fonitro patrymau presenoldeb, absenoldeb a thriwantiaeth posibl mewn ysgolion. Mae’r weithdrefn yn datgelu achosion o absenoldeb heb ganiatâd a disgwylir i ni fel ysgol atgyfeirio (y rhai nad ydym yn derbyn rheswm drostynt) i sylw’r Swyddog Addysg a Lles.

Apwyntiadau Meddygol

Pan fydd gan blentyn apwyntiad meddygol yn ystod y diwrnod ysgol dylai rhieni roi gwybod i’r ysgol pryd y bydd y plentyn yn cael ei gasglu. Ni chaniateir i unrhyw blentyn adael yr ysgol oni bai ei fod yn cael ei gasglu gan oedolyn cyfrifol.

Eich cyfrifoldeb chi fel rhiant yw hysbysu’r ysgol o bob achos o absenoldeb.

Gwyliau yn ystod y tymor

Rhaid cwblhau ffurflen briodol er mwyn derbyn caniatâd y pennaeth ar gyfer gwyliau yn ystod y flwyddyn. Cwblhewch y ffurflen: https://forms.office.com/e/df69RfjDB6

Am fwy o wybodaeth: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/addysg-ac-ysgolion/colli-ysgol-colli-cyfle/