Ysgol Gymunedol Bancffosfelen

CYD-BARATOI HEDDIW AT DDYFODOL YFORY

Yn Ysgol Bancffosfelen, ein nôd yw darparu awyrgylch cysurus ar gyfer bob plentyn er mwyn hybu ei ddatblygiad moesol, ysbrydol, diwylliannol a chorfforol. Mae llawer o ymwelwyr yn sôn am y croeso cynnes y maent yn ei gael a chwrteisi ac aeddfedrwydd ein disgyblion. Mae’r berthynas rhwng athrawon, oedolion a disgyblion yn dda ac wedi ei seilio ar gyd-barch a gofal tuag at eraill. Ysgol hapus yw Ysgol Bancffosfelen, ac mae hyn yn deillio o’r boddhad cynyddol yn y gweithgareddau sy’n mynd ymlaen yma. Mae ymdrech o’r fath yn gwneud disgyblion, rhieni, staff yn gyffredinol, yn falch o’u cysylltiad a’r ysgol.Ymfalchiwn yn llwyddiant ein disgyblion ymhell wedi iddynt ein gadael. Wedi cwbwlhau eu haddysg yn Ysgol Bancffosfelen, mae’n disgyblion yn parhau eu haddysg yn yr ysgolion Uwchradd lleol.