Datganiad Grant Amddifadedd 2021-22 Ysgol Bancffosfelen
Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.
Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:
- nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
- cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
- monitro a gwerthuso effaith adnoddau
Yn 2021-22 rhoddwyd i Ysgol Gymunedol Bancffosfelen ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £12,650.
Yn Ysgol Gymunedol Bancffosfelen mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:
- gyflogi staff sydd yn gweithredu rhaglenni ymyrraeth penodol a fydd yn codi safonau cyrhaeddiad y disgyblion
- darparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf a’u bod yn gynaliadwy- ELSA, ‘Chwarae Cadarnhaol’, ‘CHATT’,
- brynu adnoddau addas i gefnogi y disgyblion.
- Gyflwyno ymarferion adferol o fewn yr ysgol er mwyn datblygu perthnasoedd positif i wella ymddygiad
- Gostyngiad i deuluoedd PYD i fynd ar gyrsiau preswyl.