Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY): Mr Thomas Gullick

Manylion Cyswllt: gullickt13@hwbcymru.net

Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru – Beth sy’n digwydd?

ADY– Beth sy’n newid?

Mae Llywodraeth Cymru yn trawsnewid disgwyliadau, profiadau a deilliannau i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

I wneud hyn, datblygwyd rhaglen trawsnewid system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a fydd yn gweddnewid y systemau gwahanol ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion ac ar gyfer anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) mewn addysg bellach, er mwyn creu system unedig i gefnogi dysgwyr ADY o 0 hyd at 25 oed.

Gwybodaeth i blant

Wrth baratoi ar gyfer ymgorffori y Bil Trawsnewid ADY sy’n cael ei fabwysiadu gan ysgolion ledled Cymru, dyma fideo i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n esbonio’r system ADY newydd:

Am fwy o wybodaeth:

https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/addysg-ac-ysgolion/anghenion-dysgu-ychwanegol